Dyrchafiad Arall i Gymro

Ciw-restr ar gyfer Syr Henry

(John) Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall.
 
(Ifan) {Tomos yn rhuthro i afael yn ei fag a'i het ac yn rhedeg drwy'r drws.}
(2, 0) 421 Sut yr ydech chi, Mrs. Morris?
(2, 0) 422 Wel, Morris?
(Mrs. Morris) Eisteddwch i lawr, Sir Henry.
 
(Mrs. Morris) Eisteddwch i lawr, Sir Henry.
(2, 0) 424 Mae arna i ofn fy mod i wedi torri ar eich cyngor yma─dau funud fydda i─dim ond i glywed ych ateb chi.
(Ifan) Wel, rydw i wedi cael f'ysgwyd, dipyn.
 
(Ifan) Roeddwn i'r bore yma wedi penderfynu rhoi'r bil ì fyny, a derbyn ych cynnig, ond heno,─wel, wn i ddim wir.
(2, 0) 427 Wel, wrth gwrs, does gen i ddim amser i grefu.
(2, 0) 428 Chewch chi ddim siawns eto i ddyfod i'r |Cabinet|, mi ellwch gymryd fy ngair i yn derfynol ar hynny.
(Ifan) {Yn codi.}
 
(Ifan) Ond... {yn eistedd yn sydyn yn ei gadair}... rydw i'n derbyn ych cynnig chi.
(2, 0) 432 Da iawn.
(2, 0) 433 Rydech chi'n gwneuthur yn gall.
(2, 0) 434 Wrth gwrs, wn i ddim pa reswm |sentimental| oedd yn ych atal chi,─ond coeliwch chi fi, os ydech chi am lwyddo mewn gwleidyddiaeth, rhaid i chi ddysgu gwneuthur heb lawer o |luxuries|,─atgofion mebyd a phethau felly.
(Mrs. Morris) Rhaid, mae'n amlwg.
 
(Mrs. Morris) Rhaid, mae'n amlwg.
(2, 0) 436 Wel, esgusodwch fi, rydw i'n brysur iawn heno.
(2, 0) 437 Gadewch imi 'ch llongyfarch chi, Morris, ar ych penodiad i'r |Cabinet|─ "Dyrchafiad arall i Gymro!" yntê?
(2, 0) 438 Ac yn awr, rydw i'n ddigon parod i gyfadde wrthoch chi y base'ch bil chi wedi rhwygo'r blaid yn ddeuddarn pe buasech chi wedi para i wthio fo.
(2, 0) 439 Nos da, Mrs. Morris.
(Mrs. Morris) Mae'ch ewyrth, Ifan, wedi mynd i rywle a'i bethau hefog o─ond wedi gadael hwn i Jane, ac yn gofyn i chi agor o cyn i Syr Henry fynd.
 
(Mrs. Morris) Mae'ch ewyrth, Ifan, wedi mynd i rywle a'i bethau hefog o─ond wedi gadael hwn i Jane, ac yn gofyn i chi agor o cyn i Syr Henry fynd.
(2, 0) 444 O, dyddorol iawn!
(2, 0) 445 Bomb, tybed?
(2, 0) 446 Ynte atgofion mebyd wedi eu pacio yn hwylus er mwyn cael gwared o honyn nhw ar drothwy'r bywyd newydd?